Policy and Public Affairs Officer

ScreenedHybrid
Cardiff, Wales
Posted 5 days ago
Apply Now

About the role

Gair am y swydd

Diben tîm Polisi a Materion Cyhoeddus BHF yw meithrin cefnogaeth ymhlith penderfynwyr allweddol fel y gallwn drechu clefyd y galon am byth. Rydym yn datblygu polisïau BHF, yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ac yn dylanwadu arnynt er mwyn helpu i atal clefyd y galon cyn iddo ddechrau, achub bywydau a chefnogi pobl sy'n byw gyda chlefyd y galon i fyw bywydau hirach ac iachach.

Yn y swydd hon, byddwch yn hyrwyddo BHF wrth wleidyddion, gweision sifil, ymchwilwyr a'r gymuned glinigol yng Nghymru, gan helpu i sicrhau bod penderfynwyr allweddol yn barnu mai BHF yw'r arbenigwr ar iechyd y galon ac ymchwil yn y maes.

Byddwch yn dylanwadu ar Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill ar ein blaenoriaethau dylanwadu, gan wneud clefyd cardiofasgwlaidd yn flaenoriaeth yng Nghymru a sicrhau hefyd bod y sefyllfa yng Nghymru yn bleidiol i ragoriaeth ym maes ymchwil y galon.

Trefniadau gweithio

Mae hon yn swydd hybrid, lle bydd eich gwaith yn cael ei rannu rhwng eich cartref ac o leiaf un diwrnod yr wythnos, ar gyfartaledd, yn ein swyddfa yng Nghaerdydd. Gall hyn amrywio o bryd i'w gilydd, ac felly bydd angen i chi weithio mewn ffordd hyblyg i sicrhau eich gwaith gorau dros ein hachos.

Bydd gennych wybodaeth a dealltwriaeth o'r amgylchedd gwleidyddol yng Nghymru, a gwybodaeth am drefniadau a phrosesau llywodraeth ddatganoledig Cymru.

Byddwch yn ymuno â BHF Cymru mewn cyfnod cyffrous i'r elusen ac i iechyd y galon yng Nghymru a byddwch yn chwarae rhan allweddol yng ngwaith BHF a'i effaith ar fywydau pawb yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig.

Gwerthoedd a phrofiad

Er mwyn gwneud y gwaith yn llwyddiannus bydd gennych y sgiliau a'r profiad hyn:

  • Diddordeb mewn gweithio ym maes polisi a/neu faterion cyhoeddus yng Nghymru
  • Parodrwydd i ddysgu a defnyddio dulliau effeithiol o ymgysylltu â rhanddeiliaid gwleidyddol neu gynulleidfaoedd eraill ar lefel uchel, a dylanwadu arnynt
  • Gallu cyfathrebu'n glir ac yn gryno mewn amryw o fformatau ysgrifenedig ar gyfer gwahanol cynulleidfaoedd
  • Profiad o arwain eich tasgau’ch hunan i'w cyflwyno erbyn dyddiad penodol

Bydd gennych sgiliau rhagorol o ran cyfathrebu a meithrin perthnasoedd, a byddwch yn gallu cydweithio ag eraill mewn gwahanol rannau o BHF, a meithrin perthnasoedd gwaith cryf â chysylltiadau allanol allweddol yng Nghymru.

Perthyn yn y gwaith

Rydym wedi ymrwymo i feithrin gweithle lle mae pawb yn teimlo'u bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi. Trwy gofleidio gwahanol safbwyntiau a chefndiroedd, gellir cryfhau ein sefydliad a'n grymuso ninnau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol gyda'n gilydd.

#J-18808-Ljbffr

About this listing

Screened by Joboru

This role passed our automated spam and quality filters and was active in our feed when last checked. Joboru is an aggregator — here is how we screen listings. If anything looks off, tell us.